Roedd nos Sadwrn yn noson ddigon arferol i mi. Roeddwn i tua 15 oed bryd hynny, ac wedi dal bws i’r pentref nesaf i gwrdd â’m ffrindiau. Roedd gennyf bapur £5 yn fy mhoced ac roeddwn yn barod i wneud y peth arferol: casglu digon o arian i ffonio  ein deliwr o’r ddinas.

Byddai’n fodlon dod atom os câi archebion dros £50, felly byddem yn crafu, ymbil, benthyca, archebu cyffuriau i bobl eraill, unrhyw beth y gellid i gael yr archeb at ei gilydd.

Byddem yn dilyn yr un drefn bob amser cyn cael y cyffuriau, casglu’r arian, pwy fyddai’n ei ffonio, lle fyddai’r man cyfarfod, pwy fyddai’n trosglwyddo’r arian? Ond roedd y cyfan yn hynod gyffrous, ac nid oedd y noson hon yn wahanol.

Roedd y fargen wedi’i tharo, ac roeddem yn eistedd yng ngardd gefn fy ffrind yn edrych ar 30 tab asid, roedd rhai ohonynt wedi’u harchebu ar gyfer pobl eraill ac roedd angen eu  cadw’n ddiogel. Roedd un yr un yn weddill, £1.50 am 8 awr wallgof.

Roeddem yn wastad yn hoffi’r gwahanol luniau, pengwiniaid, corachod, beiciau, pob math o bethau. Duw a ?yr pam ein bod yn malio, Roedd arnom eisiau bod yn benfeddw  ac felly fe wnaethom eu llyncu ?yn yr un modd ag y gwnaethom gannoedd o weithiau cyn hynny.

Cerddasom i lawr i gae ein hysgol leol, cyrchfa reolaidd, man eang nad ai neb yno mewn gwirionedd, ac eithrio ambell gerddwr c?n. Eisteddasom mewn cylch yn ysmygu, sgwrsio, adrodd hanesion ‘tripiau’ eraill  a disgwyl effaith y cyffur.

Yn gyntaf, efallai y gwnewch sylwi ar olion o’ch bysedd neu olwg ddoniol ar drwynau eich ffrindiau, weithiau bydd arnoch awydd chwerthin. Nid oes neb a ?yr sut y gwnaiff effeithio arnoch. Mae pob trip yn wahanol, ond y noson honno, roeddem am brofi rhywbeth am y tro cyntaf, paranoia gr?p. Gallaf chwerthin yn awr ond roedd yn ddychrynllyd ar y pryd.

Roedd y caeau’n anferth. Roedd yno 4 cae pêl-droed/rygbi, 3 maes hoci coch, a chyrtiau tenis. Roedd yr ysgol uwchradd ar y naill ochr, ac yno, roedd llwybrau o amgylch y caeau a choed yn eu hymyl. Yn awr, y coed oedd yn achosi problemau i ni. Roedd LSD wedi cydio ynom.

Roeddem wedi perswadio’n hunain fod y coed hyn yn cartrefu grwpiau enfawr o feddwon oedd yn barod i ymosod arnom. Yr unig beth sy’n waeth na phobl sobr ym marn rhywun sy’n cymryd asid yw meddwon, maent yn afreolus a pheryglus.

Sawl tro, cawsom gurfa gan feddwon am fod â gwallt hir neu wisgo siaced lledr a gallaf eich sicrhau nad yw LSD yn codi awydd ymladd arnoch. Beth bynnag, roeddem yn rhedeg yn ôl ac ymlaen o amgylch y caeau hyn fel gwallgofiaid, ac yn cyrraedd ochr arall y caeau, dim ond i ddarganfod fod grwpiau mawr o bobl wedi dod i’r fan honno hefyd! Ar un adeg, roeddwn i a’m ffrind yn rhedeg â’n gwynt yn ein dwrn ac fe wnaeth cyfaill arall gerdded heibio i ni. Be ddiawl? Sut all hynny ddigwydd? Gall y pethau hyn ddigwydd pan fyddwch yn cymryd asid.

Mewn gwirionedd, Roeddem fwy na thebyg yn rhedeg yn yr un man, pwy a ?yr, efallai y gall fy ffrind redeg yn gyflym iawn? Pwyllwch, mae dau o bobl yn dod trwy’r gât. Edrychwch! O fy Nuw, roedd dau o bobl yno mewn gwirionedd, yn dod yn syth atom. Beth oeddem ni’n ei wneud yma? Beth oedd ein stori?

Dim ond deg o gloch yw hi. Gallwn aros yma os ydym yn dymuno hynny. Diolch i Dduw mai cwpwl oeddem yn eu hadnabod o’r ysgol oeddent. Roeddem oll yn ffrindiau, ond nid oeddent yn rhan o’r gr?p arferol, roeddent wedi llyncu tab yr un gartref ac wedi penderfynu dod i chwilio amdanom i rannu’r trip ac fe wnaethant ein cynorthwyo i adael y cae.

Yn awr, roedd hi’n bryd dychwelyd i d? ein ffrind. Byddem bob amser yn dychwelyd yno oherwydd roedd ganddo garej wedi’i addasu y bydd ei fam yn gadael i ni ei ddefnyddio, Roedd gennym ddwy soffa, MTV, a chwyddseinyddion a gitarau ym mhobman.

Wrth fynd rownd cornel, fe welsom gar heddlu yn y stryd. “O Dduw! Actiwch yn normal”, meddai rhywun. Felly fe wnaethom ymdeithio i lawr y stryd yn un rhes fel milwyr ufudd. Wrth i ni agosáu, fe sylweddolom mai dim ond tacsi ydoedd, whiw! Roedd hynny’n agos.

Agorodd drws cefn y tacsi a daeth dyn anferth o dew a’i ffrind allan ohono. Syllai’r ddau arnom yn ymdeithio i lawr y stryd, ond i fod yn deg, byddai unrhyw un wedi syllu arnom. Mae’n debyg ein bod yn edrych yn debyg i wallgofiaid! PARTI PARTI gwaeddodd, fe wnaethom ddal ati i gerdded, â’n pennau i lawr ac yn ymdeithio yn un rhes.

Ymunodd ei ffrind yn yr hwyl, pwy fwytaodd yr holl basteiod. Pwy fwytaodd yr holl basteiod? Iesu Grist, maen nhw naill ai am siarad â ni, rhoi curfa i ni neu ein bwyta, ond ni ddaw unrhyw ddaioni o hyn. Yna, disgynnodd y tew, rhedasom wrth i’w gyfaill geisio’i godi.

Yna gwelsom bêl-droed ar wal gardd. Bachwch y bêl! meddai rhywun, felly ceisiom gydio ynddi. Ni symudai. Ceisiodd rhywun arall. Roeddem yn dal yno wedi 30 munud, a oedd rhywun wedi gludo’r bêl wrth y wal? A oedant yn piffian chwerthin yn ein gwylio? Beth oedd o? Pelen concrid ar y wal, y math addurniadol! Nid oeddem wedi sylweddoli. Dim ond un gornel arall ac o dan bont rheilffordd a dyna gyrraedd diogelwch y garej.  Ni wnaem sobri hyd y bore wedyn, ond dyna a wnaem bob nos Sadwrn, osgoi’r meddwon a chael anturiaethau gwyllt gwallgof. Pob un â’i hanesion, weithiau byddem yn ofni am ein bywyd, ac yn aml iawn byddem yn chwerthin at ddagrau o boen. Droeon eraill byddem yn diweddu’r noson yn cysgu mewn cell a gelwid ein rhieni i’n casglu, ond stori arall yw honno.

E-bostiwch post@red-button.org i rannu eich stori bersonol.

Ysgrifennwyd y stori hon gan berson ifanc o Gaerdydd. Nid safbwyntiau’r Botwm-Coch yw’r rhai a fynegir ynddi o reidrwydd.

One Response to Noson Wyllt


Instagram